Delwedd:EV2.svg, エヴァンゲリオン.svg | |
Enghraifft o'r canlynol | cyfres deledu anime ![]() |
---|---|
Crëwr | Hideaki Anno, Gainax ![]() |
Gwlad | Japan ![]() |
Dechreuwyd | 4 Hydref 1995 ![]() |
Daeth i ben | 27 Mawrth 1996 ![]() |
Genre | anime drama, mecha, ffantasi gwyddonol, ffuglen gyffro seicolegol, ffuglen apocolyptaidd, ffilm gyffro anime ![]() |
Cymeriadau | Shinji Ikari, Asuka Langley Soryu, Rei Ayanami, Misato Katsuragi, Gendo Ikari, Kensuke Aida, Tōji Suzuhara, Kaworu Nagisa, Ritsuko Akagi, Hikari Horaki, Maya Ibuki, Ryōji Kaji, Yui Ikari, Pen Pen, Makoto Hyūga, Shigeru Aoba, Kōzō Fuyutsuki, Naoko Akagi, Keel Lorenz ![]() |
Yn cynnwys | Angel Attack, The Beast, A Transfer, Hedgehog's Dilemma, Rei I, Rei II, A Human Work, Asuka Strikes!, Both of You, Dance Like You Want to Win!, Magma Diver, The Day Tokyo-3 Stood Still, She said, 'Don't make others suffer for your personal hatred.', Lilliputian Hitcher, Weaving a Story, Those women longed for the touch of others' lips, and thus invited their kisses., Splitting of the Breast, Fourth Child, Ambivalence, Introjection, Weaving a Story 2: Oral Stage, He was aware that he was still a child., Don't Be., Rei III, The Beginning and the End, or 'Knockin' on Heaven's Door', Do you love me?, Take care of yourself., Neon Genesis Evangelion, season 1 ![]() |
Lleoliad y gwaith | Tokyo‐3, Hakone-Yumoto Station, Mount Ashigara ![]() |
Cyfarwyddwr | Hideaki Anno ![]() |
Cynhyrchydd/wyr | Akiko Odawara, Yutaka Sugiyama ![]() |
Cwmni cynhyrchu | Gainax, Tatsunoko Production ![]() |
Cyfansoddwr | Shirō Sagisu ![]() |
Dosbarthydd | Netflix, Hyper+ ![]() |
Iaith wreiddiol | Japaneg ![]() |
Gwefan | http://www.evangelion.co.jp/index.html ![]() |
![]() |
Cyfres deledu anime mecha Japaneg yw Neon Genesis Evangelion (Japaneg: 新世紀エヴァンゲリオン, "Efengyl y Ganrif Newydd") a gynhyrchwyd gan Gainax, animeiddiwyd gan Tatsunoko, cyfarwyddwyd gan Hideaki Anno ac a ddarlledwyd ar TV Tokyo rhwng Hydref 1995 a Mawrth 1996.[1] Roedd y cast yn cynnwys Megumi Ogata fel Shinji Ikari, Kotono Mitsuishi fel Misato Katsuragi, Megumi Hayashibara fel Rei Ayanami, ac Yūko Miyamura fel Asuka Langley Soryu. Cyfansoddwyd cerddoriaeth ar gyfer y gyfres gan Shirō Sagisu.[2]
Mae Evangelion wedi'i gosod yn y dyfodol - pymtheng mlynedd ar ôl trychineb byd-eang enfawr, yn enwedig yn ninas gaerog Tokyo-3. Y prif gymeriad yw Shinji, bachgen yn ei arddegau a gafodd ei recriwtio gan ei dad Gendo i'r sefydliad amheus Nerv i dreialu mecha bio-beiriant anferth o'r enw "Evangelion" i frwydro yn erbyn bodau o'r enw "Angylion". Mae'r gyfres yn archwilio profiadau ac emosiynau peilotiaid Evangelion ac aelodau Nerv wrth iddyn nhw geisio atal Angylion rhag achosi mwy o drychinebau. Yn y broses, mae galw arnyn nhw i ddeall digwyddiadau eithafol a'r cymhellion dros weithredu dynol. Disgrifiwyd y gyfres fel dadadeiladu genre mecha ac mae'n cynnwys delweddau cynrychioladol sy'n deillio o gosmoleg Shinto yn ogystal â thraddodiadau cyfriniol Iddewig a Christnogol, gan gynnwys chwedlau Midrashig a Cabala. Mae damcaniaethau seicdreiddiol Freud a Jung hefyd i'w gweld yn amlwg.
Derbyniodd Neon Genesis Evangelion glod a beirniadaeth. Yn arbennig o ddadleuol oedd y ddwy bennod olaf o'r sioe. Yn 1997 rhyddhaodd Hideaki Anno a Gainax y ffilm The End of Evangelion, gan ddangos y diweddglo o safbwynt gwahanol. Arweiniodd y gyfres deledu wreiddiol at aileni'r diwydiant anime ac mae wedi dod yn eicon diwylliannol enfawr yn Japan a thu hwnt. Mae sawl cyfrwng megis ffilm, manga, fideo cartref, a gofrestrwyd dan fasnachfraint Evangelion wedi cyflawni gwerthiant uwch nag erioed ym marchnadoedd Japan a gweddill y byd.